Skip navigation.
Cartref
Wales Environment Link

Beth a Wnawn


Rhwydwaith o gyrff amgylcheddol a chefn gwlad gwirfoddol Cymru, y rhan fwyaf ohonynt yn gweithredu ledled Cymru, yw Cyswllt Amgylchedd Cymru. Dynodwyd y Cyswllt fel y corff cyfryngol swyddogol rhwng y llywodraeth a sector amgylcheddol gwirfoddol Cymru. Ei weledigaeth yw cynyddu effeithioldeb y sector amgylcheddol yn ei allu i warchod a gwella’r amgylchedd drwy hwyluso a rhoi llais i’r sector. Fel corff ymbarel mae’r Cyswllt yn cynorthwyo i gynrychioli’r buddiannau a rennir gan y cyrff sy’n aelodau.

Katie-jo Luxton, Director RSPB, presenting at the inaugural meeting of the Cross Party Group for Biodiversity, NAfW, 19th May 2010 Mae’r Cyswllt yn annog cydweithio a rhannu gwybodaeth ledled y rhwydwaith. Mae staff y Cyswllt yn gweinyddu 20 o grwpiau e-bost i ddosbarthu gwybodaeth i staff y cyrff sy’n aelodau. Mae 6 o Grwpiau Gwaith , yn darparu cyfle i staff aelodau ddod ynghyd i weithio ar wahanol bynciau. Mae aelodau hefyd yn dod ynghyd yn y tymor byr i ffurfio Grwpiau Gorchwyl a Gorffen i weithio ar faterion cyfredol o bwysigrwydd i’r rhwydwaith. Mae’r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen a’r Grwpiau Gwaith tymor hir yn aml yn cydweithio i lunio ymatebion a datganiadau ymgynghorol ar y cyd ar strategaethau a pholisïau o bwysigrwydd allweddol i’r sector amgylcheddol gwirfoddol. Mae’r rhain i’w gweld ar y dudalen Dogfennau a Chyhoeddiadau.

Mentr gan y Gweithluoedd Bioamrywiaeth ac Eiriolaeth yw’r Grŵp Traws Bleidiol dros Fioamrywiaeth ac fe’i cefnogir gan staff y Cyswllt.


Gwahoddir rhwydwaith y Cyswllt yn aml i ethol cynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd a phartneriaethau. Mae staff y Cyswllt yn cynnig cyfle i’r aelodau gynnig am leoedd ar fforymau newydd a phan fo mwy nag un gwirfoddolwr cynhelir pleidlais ymysg yr aelodau i benderfynu pwy yn eu barn hwy fyddai’r un gorau i gynrychioli buddiannau’r rhwydwaith ar y grwp penodol dan sylw. Mae cynrychiolwyr yn adrodd yn ôl yn rheolaidd i’r rhwydwaith ac yn casglu ynghyd y farn gasgliadol i’w chyflwyno mewn cyfarfodydd arfaethedig. Ar hyn o bryd mae gan y Cyswllt gynrychiolwyr ar fwy na 40 o bartneriaethau (partneriaethau/pwyllgorau cenedlaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bennaf) sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau yn ymwneud â’r amgylchedd. Gweler Cynrychiolaeth.


Cliciwch yma i ddarllen hwn yn Rwmaneg.