Ystafell Gyfarfod Aberystwyth
Mae gan y Cyswllt ystafell gyfarfod ar gael i’w defnyddio yn ein Prif Swyddfa ar Heol y Wig yn Aberystwyth, yn agos at orsaf reilffordd y dref. Mae lle i 10 o bobl yn yr ystafell ac mae yma fwrdd sychu’n sych a Ffôn Telegynadledda Polycom. Gellir archebu’r ystafell ar gyfer ei defnyddio drwy ffonio 01970 611 621 . Nid oes lle i barcio ynghlwm â’r adeilad, ond gall staff eich cynghori ar barcio’n lleol.
Ystafell Gyfarfod Cyswllt Amgylchedd Cymru, 27 Heol y Wig, Aberystwyth, SY23 2LN
Taliadau archebu:
Cyrff sy’n aelodau o’r Cyswllt (llawn a chysylltiedig):
£5 yr awr a £1.50 yr unigolyn am luniaeth
Elusennau (Nad ydynt yn aelodau o’r Cyswllt):
£10 yr awr a £1.50 yr unigolyn am luniaeth
Cyrff eraill:
£15 yr awr a £1.50 yr unigolyn am luniaeth
Cyrff sy’n darparu man cyfarfod am ddim ar gyfer cyfarfodydd y Cyswllt a noddwyr y Cyswllt:
Archebion AM DDIM
Rhaid archebu’r defnydd o’r Ffôn Telegynadledda Polycom ymlaen llaw
(cost ychwanegol o £12 yr awr)
Sylwer bod yr ystafell gyfarfod wedi ei lleoli ar yr 2il lawr. Yn anffodus nid oes cyfleusterau yn yr adeilad i sicrhau mynediad i bobl llai abl.

